Gwneud a defnyddio recordiadau gweledol a sain o gleifion (crynodeb)

Cwmpas yr arweiniad hwn

5

Mae’r arweiniad hwn yn ymdrin â recordiadau sain a gweledol o gleifon, sy’n cael eu creu dan unrhyw amgylchiadau pan fo meddygon yn gwneud gwaith proffesiynol.5 

Mae hyn yn cynnwys:

  • recordiadau sy’n cael eu creu mewn safeoedd gofal iechyd2 yn y DU neu y tu hwnt i’r DU, a/neu
  • recordiadau sy’n cael eu creu fel rhan o’r broses o asesu cyfwr neu salwch claf, o ymchwilio i gyfwr neu salwch claf, neu o drin cyfwr neu salwch claf, a/neu
  • recordiadau sy’n cael eu creu at ddibenion megis addysgu, hyfforddi neu asesu gweithwyr gofal iechyd proffesiynol a myfyrwyr, ymchwil, neu at ddefnydd arall sy’n ymwneud ag iechyd, ac nad ydynt er mwyn cynnig budd uniongyrchol i’r claf, a ddisgrifr fel ‘dibenion eilaidd’ yn yr arweiniad hwn. 
1

Nid yw hyn yn cynnwys recordiadau o bobl yn eu gweithle a gynlluniwyd i ddangos neu nodi peryglon galwedigaethol.  

2

Nid yw’r arweiniad hwn yn cynnwys recordiadau CCTV o safeoedd cyhoeddus mewn ysbytai a meddygfeydd, y maent yn destun canllawiau ar wahân gan Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth.

6

Yn yr arweiniad hwn, mae ‘recordiadau’ yn golygu recordiadau sain, ffotograffau a delweddau gweledol gwreiddiol eraill o gleifon, a allai gael eu creu gan ddefnyddio unrhyw ddyfais recordio, gan gynnwys ffonau symudol, neu gopïau ohonynt. Nid yw’n ymdrin â chopïau o gofnodion ysgrifenedig. 

Sleidiau patholeg

7

Nid yw ‘recordiadau’ yn yr arweiniad hwn yn cynnwys sleidiau patholeg sy’n cynnwys meinweoedd dynol (sydd ar wahân i ddelwedd o sleid o’r fath). Gallai ffotograffau o sleidiau microsgop gael eu gwneud heb ganiatâd at ddiben gofal neu driniaeth claf, neu at ddiben eilaidd, os ydy’r sleidiau’n ddienw neu wedi’u codio3 cyn iddynt gael eu defnyddio at ddiben eilaidd, ac yn ddienw bob amser cyn iddynt gael eu cyhoeddi’n yhoeddus. Lle gwneir ffotograffau o sleidiau patholeg at ddibenion eilaidd yn ystod archwiliad post-mortem, dylech ddilyn y cyngor ym paragraph 51.

51

Os hoffech wneud recordiadau o’r corff, organau neu feinwe yn ystod archwiliad post-mortem, at ddiben eilaidd fel addysgu neu ymchwil, dylech geisio cael caniatâd ar yr un pryd ag y ceisiwch ganiatâd i gynnal yr archwiliad. Os nad ydych chi wedi rhagweld y posibilrwydd hwn, cewch wneud recordiadau (gan gynnwys ffotograffau o sleidiau patholeg) at ddibenion eilaidd heb ganiatâd, os nad ydynt yn cynnwys delweddau a allai adnabod yr unigolyn. 

3

Gwybodaeth wedi’i chodio – a elwir gwybodaeth ffugenwol hefyd – yw gwybodaeth na fydd modd i’r derbynnydd adnabod unigolion ohoni, ond sy’n galluogi gwybodaeth am wahanol gleifon i gael ei gwahaniaethu neu i wybodaeth am yr un cleifon gael ei chysylltu dros gyfnod o amser, er enghraifft er mwyn nodi sgil-effeithiau cyffur. Efallai y bydd yr unigolyn neu’r gwasanaeth a wnaeth godio’r wybodaeth yn cadw ‘allwedd’, fel bod modd ei hail-gysylltu â’r claf.