Arfer da wrth bresgripsiynu a rheoli meddyginiaethau a dyfeisiau

Adolygu meddyginiaethau

93

Os ydych yn presgripsiynu dan drefniant rheolaidd neu unigol, rhaid i chi sicrhau bod trefniadau addas mewn grym er mwyn gwneud gwaith monitro, adolygu a gwaith dilynol. Dylech ystyried anghenion y cleifon ac unrhyw risgiau sy’n deillio o’r meddyginiaethau.

94

Pan fyddwch yn adolygu meddyginiaethau claf, dylech ailasesu eu hangen am unrhyw feddyginiaethau didrwydded (gweler paragraffau 103 i 106) y gallent fod yn eu cymryd, er enghraifft, cyffuriau gwrthseicotig a ddefnyddir er mwyn trin symptomau seicolegol ac ymddygiadol ymhlith cleifon y mae ganddynt ddementia. 

95

Bydd adolygu meddyginiaethau yn arbennig o bwysig:

  1. pan allai cleifon fod mewn perygl, er enghraifft, y rhai sy’n eiddil neu y maent yn dioddef sawl salwch
  2. pan fydd gan feddyginiaethau sgîl-effeithiau cyffredin neu y gallent fod yn ddifrifol
  3. pan roddir presgripsiwn am feddyginiaeth a reolir neu feddyginiaeth arall i glaf, y mae’n gyffredin iddi gael ei chamddefnyddio
  4. pan fo BNF neu ganllawiau clinigol awdurdodol eraill yn argymell y dylid cynnal profon gwaed neu weithgarwch monitro arall yn rheolaidd. 
96

Gall fferyllwyr helpu i wella diogelwch, effeithiolrwydd ac ymlyniad o ran defnydd meddyginiaethau, er enghraifft, trwy gynghori cleifon ynghylch eu meddyginiaethau a thrwy gynnal adolygiadau o feddyginiaethau. Nid yw hyn yn disodli eich dyletswydd chi i sicrhau eich bod yn presgripsiynu ac yn rheoli meddyginiaethau mewn ffordd briodol.

97

Dylech ystyried a chymryd camau priodol ynghylch gwybodaeth a chyngor gan fferyllwyr a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol eraill y maent wedi adolygu defnydd cleifon o feddyginiaethau. Mae hyn yn arbennig o wir os gwelir newidiadau i feddyginiaethau claf neu os byddant yn adrodd am broblemau gyda goddefad, sgîl-effeithiau neu ynghylch cymryd meddyginiaethau yn unol â’r cyfarwyddyd a roddwyd.