Arfer meddygol da

Maes 2: Cleifion, partneriaeth a chyfathrebu

Cyflwyniad 

Gall agwedd proffesiynol meddygol gael effaith barhaol ar glaf.  Gall trin cleifion gyda charedigrwydd, tosturi a pharch siapio eu profiad o ofal yn aruthrol.

Mae gweithwyr meddygol proffesiynol da yn cydnabod bod cleifion yn unigolion sydd ag anghenion amrywiol, ac nid ydynt yn rhagdybio’r dewisiadau neu’r canlyniadau y bydd claf yn eu ffafrio.  Maent yn gwrando ar gleifion ac yn gweithio mewn partneriaeth â nhw.  Maent yn gwneud eu gorau i sicrhau bod pob claf yn cael gofal a thriniaeth dda, a fydd yn eu cynorthwyo i fyw bywyd mor dda ag y bo modd, beth bynnag fo eu salwch neu eu hanabledd.

Trin cleifion yn deg a pharchu eu hawliau

16

Rhaid i chi gydnabod a pharchu urddas pob claf a’u hawl i breifatrwydd.

17

Os yw’n berthnasol i’ch ymarfer, rhaid i chi ddilyn ein canllawiau mwy manwl ar Archwiliadau personol a gwarchodwyr.

18

Rhaid i chi gydnabod hawl claf i ddewis a ydynt yn dymuno derbyn eich cyngor neu beidio, a pharchu eu hawl i geisio ail farn.

19

Rhaid i chi drin cleifion yn deg.  Rhaid i chi beidio â gwahaniaethu yn eu herbyn na chaniatáu i’ch safbwyntiau personol effeithio ar eich perthynas gyda nhw, na’r driniaeth rydych yn ei darparu neu’n ei threfnu.  Rhaid i chi beidio â gwrthod neu oedi triniaeth oherwydd eich bod yn credu bod gweithredoedd neu ddewisiadau claf wedi cyfrannu at eu cyflwr.

20

Rhaid i chi roi blaenoriaeth i gleifion ar sail eu hangen clinigol os yw’r penderfyniadau hyn o fewn eich grym.  Os bydd adnoddau, polisïau neu systemau annigonol yn eich atal rhag gwneud hyn – ac os y gallai diogelwch neu urddas cleifion gael ei beryglu’n ddifrifol o ganlyniad – rhaid i chi ddilyn y canllawiau ym mharargraff 75.

21

Os oes gennych chi wrthwynebiad cydwybodol i driniaeth benodol, rhaid i chi sicrhau nad yw’r ffordd yr ydych yn rheoli hyn yn rhwystro claf rhag cael mynediad at ofal priodol i ddiwallu eu hanghenion.  Rhaid i chi ddilyn y canllawiau ym mharagraff 88 a’n canllaw manylach ar Gredoau personol ac arfer meddygol.

22

Rhaid i chi drin gwybodaeth am gleifion fel gwybodaeth gyfrinachol, gan gynnwys ar ôl marwolaeth claf.  Rhaid i chi ddilyn ein canllaw mwy manwl ar Gyfrinachedd: arfer da wrth drin gwybodaeth cleifion.

Trin cleifion gyda charedigrwydd, cwrteisi a pharch 

23

Rhaid i chi drin cleifion gyda charedigrwydd, cwrteisi a pharch.  Nid yw hyn yn golygu cytuno i bob cais (gweler paragraff 7d) neu chadw gwybodaeth berthnasol yn ôl a allai beri gofid iddynt neu efallai na fyddant yn dymuno clywed (gweler paragraff 28).  Mae’n golygu:

  1. cyfathrebu mewn ffordd sensitif ac ystyriol, yn enwedig pan fyddwch yn rhannu gwybodaeth am faterion allai beri gofid am brognosis a gofal y claf
  2. gwrando ar gleifion, gan gydnabod eu gwybodaeth a’u profiad o’u hiechyd, a chydnabod eu pryderon
  3. ceisio peidio ffurfio tybiaethau am yr hyn y bydd y claf yn ei ystyried yn arwyddocaol neu’r pwys y byddant yn ei roi ar wahanol ganlyniadau
  4. bod yn fodlon esbonio eich rhesymau dros y dewisiadau yr ydych yn eu cynnig (a’r dewisiadau nad ydych yn eu cynnig) ac unrhyw argymhellion y byddwch yn eu gwneud
  5. cydnabod y gallai cleifion fod yn agored i niwed, hyd yn oed os nad ydynt yn ymddangos felly 
  6. bod yn effro i arwyddion poen neu ofid, a chymryd camau i leddfu poen a gofid, os yw gwellhad yn bosibl neu beidio.

Cynorthwyo cleifion i wneud penderfyniadau am driniaeth a gofal

24

Mae gan bob claf yr hawl i gymryd rhan mewn penderfyniadau am eu triniaeth a’u gofal, a chael eu cynorthwyo i wneud penderfyniadau gwybodus os ydynt yn gallu gwneud hynny.  Rhaid i chi gychwyn gyda’r rhagdybiaeth bod pob claf sy’n oedolyn yn meddu ar alluedd i wneud penderfyniadau am eu triniaeth a’u gofal.

25

Rhaid i chi fod yn fodlon bod gennych ganiatâd neu awdurdod dilys arall cyn archwilio neu drin cleifion, neu gynnwys cleifion neu wirfoddolwyr mewn gwaith addysgu neu ymchwil.  Rhoddir mwy o fanylion am hyn yn ein canllaw Gwneud penderfyniadau a chaniatâd, y mae’n rhaid i chi ei ddilyn.  Os yn berthnasol i’ch ymarfer, rhaid i chi hefyd ddilyn ein canllaw Creu a defnyddio recordiadau sain a gweledol o gleifion.

26

Rhaid i chi fod yn ymwybodol o’ch dyletswyddau cyfreithiol a moesegol sy’n ymwneud â chaniatâd a galluedd.  Mae hyn yn golygu bod yn rhaid i chi:

  1. fod yn ymwybodol o’r gyfraith berthnasol am alluedd ac iechyd meddwl
  2. ystyried codau ymarfer perthnasol
  3. ddilyn ein canllaw Gwneud penderfyniadau a chaniatâd.
27

Wrth drin cleifion sy’n agosáu at ddiwedd eu hoes, rhaid i chi ddilyn ein canllaw mwy manwl ar Driniaeth a gofal tuag at ddiwedd oes:  arfer da wrth wneud penderfyniadau.

Rhannu gwybodaeth gyda chleifion

28

Mae cyfnewid gwybodaeth rhwng gweithwyr meddygol proffesiynol a chleifion yn rhan ganolog o wneud penderfyniadau da.  Rhaid i chi roi’r wybodaeth i gleifion y maent yn dymuno ei chael neu y mae angen iddynt ei chael mewn ffordd y gallant ei deall.  Mae hyn yn cynnwys gwybodaeth am:

  1. eu cyflwr(cyflyrau), ei ddatblygiad tebygol, ac unrhyw ansicrwydd ynghylch diagnosis a phrognosis
  2. y dewisiadau er mwyn trin neu reoli’r cyflwr(cyflyrau), gan gynnwys y dewis o beidio cymryd unrhyw gamau
  3. y buddion posibl, risgiau o niwed, ansicrwydd ynghylch, a thebygolrwydd llwyddiant ar gyfer pob dewis.
29

Rhaid i chi wrando ar gleifion ac annog deialog agored am eu hiechyd, gan ofyn cwestiynau er mwyn caniatáu iddynt fynegi’r hyn sy’n bwysig iddyn nhw, ac ymateb yn onest i’w cwestiynau.

30

Rhaid i chi sicrhau bod y wybodaeth y byddwch yn ei rhoi i gleifion yn glir, yn gywir ac yn gyfredol ac wedi’i seilio ar y dystiolaeth orau sydd ar gael.

31

Dylech wirio dealltwriaeth cleifion o’r wybodaeth a roddwyd iddynt, gan wneud eich gorau i sicrhau eu bod yn cael yr amser a’r cymorth y mae ei angen arnynt i wneud penderfyniadau gwybodus os ydynt yn gallu gwneud hynny.

32

Rhaid i chi gymryd camau i fodloni anghenion iaith a chyfathrebu cleifion, fel y gallwch eu cynorthwyo i gymryd rhan mewn deialog ystyrlon a gwneud penderfyniadau gwybodus am eu gofal.  Dylai’r camau y byddwch yn eu cymryd fod yn rhai cymesur dan yr amgylchiadau, gan gynnwys anghenion y claf a difrifoldeb eu cyflwr(cyflyrau), natur frys y sefyllfa ac argaeledd adnoddau.

33

Rhaid i chi ystyried ac ymateb i anghenion cleifion sydd â namau neu anableddau.  Nid yw pob nam ac anabledd yn hawdd i’w hadnabod, felly dylech ofyn i gleifion pa gymorth y mae ei angen arnynt, a chynnig addasiadau rhesymol sy’n gymesur â’r amgylchiadau.

34

Rhaid i chi drin pob claf fel unigolyn.  Rhaid i chi beidio â dibynnu ar ragdybiaethau am y dewisiadau o ran triniaeth neu’r canlyniadau y bydd claf yn eu ffafrio, neu’r ffactorau y byddant yn eu hystyried yn arwyddocaol.

35

Os gofynnir i gleifion gytuno bod yn rhan o waith addysgu neu waith ymchwil, rhaid i chi rannu unrhyw wybodaeth y bydd ei hangen arnynt er mwyn gwneud penderfyniad ac mae’n rhaid i chi ddilyn y canllawiau ym mharagraff 86 ac yn ein canllaw mwy manwl am Arfer da mewn ymchwil.

36

Rhaid i chi fod yn agored ac yn onest gyda chleifion am unrhyw fuddiannau sydd gennych chi y gallent effeithio (neu gael eu hystyried fel eu bod yn effeithio), ar y ffordd yr ydych yn cynnig, yn darparu neu’n presgripsiynu triniaethau, neu’n cyfeirio cleifion.  Rhaid i chi ddilyn ein canllaw mwy manwl am Nodi a rheoli gwrthdaro rhwng buddiannau.

Cyfathrebu gyda’r rhai sy’n agos at glaf

37

Rhaid i chi fod yn ystyriol ac yn dosturiol tuag at y rhai sy’n agos at glaf a bod yn sensitif ac yn ymatebol wrth roi cymorth a gwybodaeth iddynt.  Rhaid i chi ddilyn ein canllaw mwy manwl am Gyfrinachedd: arfer da wrth drin gwybodaeth cleifion.

Gofalu am y claf cyfan

38

Rhaid i chi gynorthwyo cleifion i ofalu am eu hunain a’u grymuso i wella a chynnal eu hiechyd.  Gallai hyn gynnwys:

  1. eu helpu i fanteisio ar wybodaeth a chymorth er mwyn rheoli eu hiechyd yn llwyddiannus
  2. eu cynorthwyo i wneud penderfyniadau sy’n gwella eu hiechyd a’u lles.
39

Dylech holi cleifion am unrhyw ofal neu driniaeth arall y maent yn eu derbyn – gan gynnwys meddyginiaethau dros y cownter – gan wirio bod unrhyw ofal neu driniaeth yr ydych chi’n ei gynnig, yn ei ddarparu neu’n ei ragnodi yn gydnaws.

40

Os yw claf yn cymryd meddyginiaethau lluosog, dylech drafod pwysigrwydd adolygiadau rheolaidd er mwyn sicrhau bod y meddyginiaethau yn parhau i ddiwallu anghenion y claf a’u bod yn cael eu hoptimeiddio ar eu cyfer.  Dylech ystyried effaith gyffredinol triniaethau’r claf, ac a yw’r manteision yn gwrthbwyso unrhyw risg o niwed.

Diogelu plant ac oedolion sydd mewn perygl o ddioddef niwed

41

Rhaid i chi ystyried anghenion a lles pobl (oedolion, plant a phobl ifanc) y gallent fod yn agored i niwed, a chynnig help iddynt os ydych chi’n credu bod eu hawliau yn cael eu cam-drin neu’n cael eu gwrthod.  Rhaid i chi ddilyn ein canllaw mwy manwl am Ddiogelu plant a phobl ifanc a 0-18 oed: arweiniad i bob meddyg.

42

Rhaid i chi weithredu yn ddi-oed2 ynghylch unrhyw bryderon sydd gennych am glaf – neu rywun sy’n agos iddynt – y gallent fod mewn perygl o gael eu cam-drin neu eu hesgeuluso, neu y maent yn cael eu cam-drin neu’n cael eu hesgeuluso.

2

Gweler ein cyngor hwb moesegol ar ddiogelu oedolion a gallwch ddod o hyd iddo yn https://www.gmc-uk.org/ethical-guidance/ethical-hub/adult-safeguarding  

Helpu mewn argyfyngau

43

Rhaid i chi gynnig help mewn argyfwng, gan ystyried eich diogelwch, eich cymhwysedd, ac argaeledd dewisiadau gofal eraill.

Sicrhau bod cleifion sy’n peri risg niwed i eraill yn gallu manteisio ar ofal priodol

44

Ni ddylid gwrthod gofal i gleifion gan bod eu cyflwr yn rhoi eraill mewn perygl.  Os bydd claf yn peryglu eich iechyd neu’ch diogelwch chi, dylech gymryd yr holl gamau sydd ar gael i leihau’r risg gymaint ag y bo modd cyn darparu triniaeth eich hun, neu wneud trefniadau amgen i’r claf fanteisio ar ofal er mwyn diwallu eu hanghenion.

Bod yn agored os bydd pethau yn mynd o le

45

Rhaid i chi fod yn agored ac yn onest gyda chleifion os bydd pethau yn mynd o le.  Os bydd claf dan eich gofal wedi dioddef niwed neu ofid, mae’n rhaid i chi ddilyn ein canllaw am Weithredu mewn ffordd agored a gonest pan fydd pethau yn mynd o le: dyletswydd broffesiynol gonestrwydd (Link to the Welsh version of duty of candour),  a dylech: 

  1. unioni’r mater, os oes modd 
  2. ymddiheuro (nid yw ymddiheuro ynddo’i hun yn golygu eich bod yn cyfaddef atebolrwydd cyfreithiol am yr hyn sydd wedi digwydd)
  3. rhoi esboniad llawn a phrydlon o’r hyn sydd wedi digwydd a’r effeithiau tebygol dros y tymor byr a’r tymor hir
  4. adrodd am y digwyddiad yn unol â pholisi eich sefydliad, fel y bydd modd ei adolygu neu ei ymchwilio pan fo hynny’n briodol – a bydd modd dysgu gwersi a diogelu cleifion rhag niwed yn y dyfodol.  
46

Rhaid i chi ymateb mewn ffordd brydlon, llawn a gonest i gwynion.  Rhaid i chi beidio â chaniatáu i gŵyn claf gael effaith niweidiol ar y gofal neu’r driniaeth yr ydych yn ei darparu neu’n ei threfnu.

47

Dim ond pan fydd diffyg ymddiriedaeth rhyngoch chi a‘r claf yn golygu na allwch barhau i ddarparu gofal clinigol da iddynt y dylech ddod â  pherthynas broffesiynol gyda’r claf i ben.  Rhaid i chi ddilyn ein canllaw mwy manwl am Derfynu’ch perthynas broffesiynol gyda chlaf.