Gwneud penderfyniadau a chydsyniad

Amgylchiadau sy’n effeithio ar y broses owneud penderfyniadau

Cyfyngiadau ar amser ac adnoddau

60

Mae gallu bodloni anghenion unigol claf am wybodaeth a chymorth yn dibynnu’n rhannol ar yr amser a’r adnoddau sydd ar gael i chi a’ch cydweithwyr yn y sefydliadau lle’r ydych yn gweithio. Pan fydd pwysau ar eich amser neu pan fo’ch adnoddau yn gyfyngedig, dylech ystyried:

  1. y rôl y gallai aelodau eraill y tîm iechyd a gofal ei gyflawni*
  2. pa ffynonellau gwybodaeth a chymorth eraill sydd ar gael i’r claf, megis taflenni gwybodaeth i gleifion, gwasanaethau eiriolaeth, rhaglenni cleifion arbenigol, neu grwpiau cymorth ar gyfer pobl sydd â chyflyrau penodol.
*xiii

See paragraphs 40–41 on Support from other members of the healthcare team.

61

Os bydd ffactorau y tu hwnt i’ch rheolaeth yn golygu na fydd cleifion yn cael yr amser neu’r cymorth y mae ei angen arnynt er mwyn deall gwybodaeth berthnasol (gweler paragraff 10), ac os bydd hyn yn peryglu eu gallu i wneud penderfyniadau gwybodus mewn ffordd ddifrifol, rhaid i chi ystyried y cam o fynegi pryder.4 Dylech ystyried hefyd a yw hi’n briodol symud ymlaen, o gofio bod yn rhaid i chi deimlo’n fodlon eich bod wedi sicrhau caniatâd y claf neu awdurdod dilys arall cyn darparu triniaeth neu ofal.

Triniaeth mewn argyfyngau

62

Mewn argyfwng, efallai y bydd angen gwneud penderfyniadau yn gyflym, felly bydd llai o amser i weithredu’r arweiniad hwn yn fanwl, ond bydd yr egwyddorion yr un fath. Rhaid i chi dybio bod claf ymwybodol yn meddu ar alluedd i wneud penderfyniadau, gan geisio caniatâd cyn darparu triniaeth neu ofal.

63

Mewn argyfwng, os bydd claf yn anymwybodol neu os byddwch yn dod i’r casgliad fel arall eu bod heb alluedd ac nid oes modd darganfod eu dymuniadau, gallwch ddarparu triniaeth sy’n angenrheidiol ar Gweler paragraffau 79–82 ynghylch Rhagdybio ac asesu galluedd. unwaith er mwyn achub eu bywyd neu atal eu cyflwr rhag gwaethygu mewn ffordd ddifrifol. Os bydd mwy nag un dewis, dylai’r driniaeth y byddwch yn ei darparu fod yr un sy’n cyfyngu leiaf ar hawliau a rhyddid y claf, gan gynnwys eu dewisiadau yn y dyfodol.*

*xiv

See paragraphs 81–84 on Presuming and assessing capacity.

64

Am y cyfnod pan fydd y claf heb alluedd, dylech ddarparu gofal parhaus gan ddilyn yr arweiniad ym mharagraffau 87–91. Os bydd y claf yn adennill galluedd yn ystod eu cyfnod yn eich gofal, rhaid i chi ddweud wrthynt yr hyn a wnaethpwyd a pham, cyn gynted ag y byddant wedi gwella digon i ddeall. Ac mae’n rhaid i chi drafod y dewisiadau am unrhyw driniaeth barhaus gyda nhw.