Y deialog sy’n arwain at benderfyniad barhau
Os byddwch yn anghytuno gyda dewis claf
Rhaid i chi barchu hawl eich claf i benderfynu. Os bydd eu dewis (neu eu penderfyniad i beidio gwneud unrhyw beth) yn ymddangos allan o gymeriad neu’n anghyson gyda’u credoau a’u gwerthoedd, efallai y bydd hi’n rhesymol archwilio eu dealltwriaeth o’r wybodaeth berthnasol (gweler paragraff 10) a’u disgwyliadau ynghylch canlyniad tebygol y dewis hwn a dewisiadau amgen rhesymol. Os nad yw hi’n glir a yw claf yn deall canlyniadau eu penderfyniad neu beidio, dylech gynnig mwy o gymorth er mwyn eu helpu i ddeall y wybodaeth berthnasol. Ond ni ddylech gymryd bod claf heb alluedd oherwydd eu bod yn gwneud penderfyniad sy’n un annoeth yn eich barn chi.*
See paragraphs 27–30 for ways of Supporting patients’ decision making.
Os bydd claf yn gofyn am driniaeth neu ofal na fyddai er eu budd clinigol yn eich barn chi, dylech archwilio eu rhesymau dros ofyn amdani, eu dealltwriaeth o’r hyn y byddai yn ei olygu, a’u disgwyliadau am y canlyniad tebygol. Bydd y drafodaeth hon yn eich helpu i ystyried ffactorau sy’n arwyddocaol i’r claf, gan asesu a allai darparu’r driniaeth neu’r gofal fodloni anghenion y claf. Ar ôl cael trafodaeth, os byddwch o’r farn o hyd na fyddai’r driniaeth neu’r gofal yn bodloni anghenion y claf, ni ddylech ei darparu. Ond, dylech esbonio’ch rhesymau i’r claf, gan archwilio dewisiadau eraill y gallent fod ar gael, gan gynnwys eu hawl i geisio ail farn. *
See paragraphs 16–20 on Finding out what matters to a patient.