Y deialog sy’n arwain at benderfyniad barhau
Cael cymorth gan aelodau eraill y tîm gofal iechyd
Gan bod gwneud penderfyniadau yn broses barhaus a dynamig, gall dull wedi’i seilio ar dîm fod o gymorth wrth fodloni anghenion gwybodaeth cleifion, y gallent newid wrth i’w triniaeth neu eu gofal fynd rhagddi/rhagddo.
Efallai y bydd aelodau o’ch tîm gofal iechyd sy’n arbenigo mewn cyflyrau penodol a’u triniaeth, y maent yn gyfathrebwyr medrus, neu y maent wedi meithrin perthynas llawn ymddiriedaeth gyda’r claf. Dylech ystyried y rôl y gallai’r aelodau hyn o’r tîm ei gyflawni wrth gyfrannu at y ddeialog sy’n arwain at benderfyniad, gan ddilyn paragraffau 42–47 ynghylch cyfrifoldeb a dirprwyo.
Cyfrifoldeb a dirprwyo
Efallai y byddwch yn penderfynu dirprwyo rhan o’r broses o wneud penderfyniad, megis rhannu gwybodaeth fanwl gyda chlaf am ymyriad penodol. Defnyddir y math hwn o ddirprwyo yn rheolaidd mewn rhai timau amlddisgyblaethol ar gyfer ymyriadau penodol
Wrth benderfynu a yw hi’n briodol dirprwyo, dylech ystyried:
- natur yr ymyriad a chymhlethdod y wybodaeth amdano
- lefel yr ansicrwydd am y canlyniad
- a yw’r claf eisoes wedi meithrin perthynas llawn ymddiriedaeth gyda chi neu’r unigolyn y byddech yn dirprwyo iddynt
- unrhyw beth anarferol am gyflwr(cyflyrau) y claf ac unrhyw bryderon yr ydych yn rhagweld y byddai gan y claf efallai.
Rhaid i chi sicrhau bod yr unigolyn y byddwch yn dirprwyo iddynt:
- wedi cael hyfforddiant addas a’u bod yn gymwys
- yn meddu ar wybodaeth ddigonol am yr ymyriad a’i fanteision a’i niwed cysylltiedig, yn ogystal â dewisiadau amgen ar gyfer triniaeth a gofal
- yn meddu ar y sgiliau i gael deialog gyda’r claf sy’n cyd-fynd â’r arweiniad
- yn teimlo’n gymwys i allu cyflawni’r dasg a ddirprwywyd iddynt, ac yn deall ac yn cytuno y byddant yn troi atoch chi (neu gydweithiwr priodol arall) am wybodaeth bellach, cyngor neu gymorth yn ôl yr angen.
Os bydd rhan o’r broses o wneud penderfyniad wedi cael ei dirprwyo, rydych chi’n gyfrifol am sicrhau o hyd bod y claf wedi cael y wybodaeth y bydd angen iddynt ei chael er mwyn gwneud penderfyniad (gweler paragraff 10), eu bod wedi cael amser a chymorth i’w hystyried, a’u bod wedi rhoi eu caniatâd cyn i chi ddarparu triniaeth neu ofal. Dylech sicrhau hefyd bod gan y claf ddisgwyliad realistig am y canlyniad.
Os bydd cydweithiwr sy’n rhannu gwybodaeth gyda chlaf ar eich rhan yn mynegi pryderon am eu cymhwysedd i wneud hyn, dylech gynnig cymorth, goruchwyliaeth neu hyfforddiant a/neu wneud trefniadau amgen.
Os bydd cydweithiwr yn gofyn i chi rannu gwybodaeth gyda chlaf neu geisio caniatâd claf ar eu rhan, rhaid i chi deimlo’n fodlon eich bod yn meddu ar y wybodaeth a’r sgiliau angenrheidiol i wneud hynny yn unol â’r arweiniad hwn. Os nad ydych, dylech esbonio hyn a cheisio cymorth. Os ydych yn credu eich bod yn cael cais i weithio y tu hwnt i’ch cymhwysedd, neu os nad ydych wedi cael cymorth digonol, rhaid i chi ystyried mynegi pryder.4