Gwneud penderfyniadau a chydsyniad

Amgylchiadau sy’n effeithio ar y broses owneud penderfyniadau barhau

Os na fydd claf yn dymuno cymryd rhan mewn penderfyniad

65

Ni all unrhyw un arall wneud penderfyniad ar ran oedolyn sy’n meddu ar alluedd. Os bydd claf sy’n meddu ar alluedd yn gofyn i chi neu rywun arall wneud penderfyniad ar eu rhan, dylech esbonio hyn iddynt. Dylech esbonio ei bod hi’n bwysig eu bod yn deall ychydig wybodaeth sylfaenol fel y gallwch chi symud ymlaen gyda thriniaeth neu ofal. Fel arfer, byddai hyn yn cynnwys beth yw’r dewisiadau a’r hyn y maent yn gobeithio ei gyflawni.

66

Os bydd claf wedi gwneud dewis, ond nid ydynt yn dymuno trafod y manylion, dylech esbonio y bydd angen iddynt gael rhywfaint o wybodaeth am yr hyn y byddai yn ei olygu cyn y gallwch symud ymlaen, megis:

  1. a fydd y weithdrefn yn creu archoll
  2. lefel y boen neu’r anesmwythdra y byddant yn ei hwynebu efallai, a’r hyn y gellir ei wneud i leihau hyn gymaint ag y bo modd
  3. unrhyw beth y dylent ei wneud er mwyn paratoi ar gyfer yr ymyriad
  4. os yw’n cynnwys unrhyw risg y byddant yn dioddef niwed difrifol.
67

Dylech geisio darganfod pam nad ydynt yn dymuno bod yn rhan o’r broses o wneud penderfyniad, gan archwilio a ydych chi’n gallu gwneud unrhyw beth i dawelu eu meddwl a’u cynorthwyo. Efallai eu bod yn gofidio am y penderfyniad neu’n teimlo fel pe bai’r wybodaeth yn eu llethu, a bod angen amser neu gymorth arnynt i’w phrosesu.

68

Ar ôl trafod dewisiadau gyda nhw fel y nodir uchod, os bydd eich claf yn mynnu nad ydynt yn dymuno cael y wybodaeth sylfaenol hon hyd yn oed, bydd angen i chi farnu a yw eu caniatâd yn ddilys, er mwyn i chi allu symud yn eich blaen. Mae hyn yn fwy tebygol o fod yn wir os yw’r dewis arfaethedig yn ymyriad sefydledig a ddefnyddir yn gyffredin er mwyn trin y cyflwr sydd ganddynt, a cheir rheswm dros gredu bod y claf yn dymuno cael eu trin neu gael gofal, yn hytrach na pheidio gwneud unrhyw beth. Dylech ystyried ceisio cyngor gan eich corff amddiffyn meddygol neu’ch cymdeithas broffesiynol yn yr amgylchiadau hyn.

Os ydych yn pryderu nad yw claf yn gallu gwneudpenderfyniad o’u gwirfodd

69

Mae nifer o ffactorau yn dylanwadu ar benderfyniadau cleifion, ond mae’n bwysig na fydd unrhyw beth yn dylanwadu ar glaf i’r fath raddau fel nad ydynt yn gallu gwneud rhywbeth o’u gwirfodd. Os na fydd claf yn gallu gwneud penderfyniad o’u gwirfodd, ni fyddant yn gallu rhoi eu caniatâd.

70

Efallai y bydd cleifion yn teimlo dan bwysau i gael gofal neu driniaeth benodol. Gall y pwysau ddod gan eraill – partneriaid, perthnasau neu ofalwyr, cyflogwyr neu yswirwyr – neu gan gredoau cleifion am eu hunain a disgwyliadau cymdeithas.

71

Dylech fod yn ymwybodol o’r posibilrwydd hwn ac o sefyllfaoedd eraill lle y gallai cleifion fod yn arbennig o agored i niwed neu’n debygol o deimlo dan bwysau, er enghraifft, os ydynt:

  1. yn profi cam-drin domestig neu ffurfiau eraill o gam-drin
  2. yn breswylydd mewn cartref gofal
  3. yn cael gofal neu gymorth gan eraill oherwydd anabledd
  4. yn cael eu cadw gan yr heddlu neu’r gwasanaethau mewnfudo, neu os ydynt yn y carchar
  5. yn destun gorchmynion asesu neu drin gorfodol, neu mewn perygl o fod mewn sefyllfa o’rfath.*
*xv

See paragraphs 94–96 on Making decisions about treatment and care when a patient’s right to consent is affected by law.

72

Os byddwch yn amau bod hawliau claf wedi cael eu cam-drin neu eu gwrthod, rhaid i chi ddilyn gweithdrefnau diogelu lleol ac ystyried mynegi pryder.

73

Dylech wneud eich gorau i sicrhau bod cleifion yn gwneud eu penderfyniad eu hunain, ar ôl ystyried gwybodaeth berthnasol (gweler paragraff 10)am y dewisiadau sydd ar gael, gan gynnwys y dewis o beidio gwneud unrhyw beth. Dylech eu cynorthwyo i wneud penderfyniad, gan ddilyn y camau ym mharagraffau 27–30, yn ogystal â:

  1. rhoi mwy o amser iddynt a lle tawel a diogel i ystyried y dewisiadau
  2. sicrhau eich bod yn cael cyfle i drafod gyda nhw ar eu pen eu hunain
  3. eu cyfeirio at wasanaethau cymorth arbenigol
74

Rhaid i chi sicrhau bod eich claf yn ymwybodol o’r ffaith bod ganddynt yr hawl i ddewis a ydynt yn dymuno cael triniaeth neu beidio. Ni ddylech fwrw ymlaen gyda thriniaeth neu ofal os na fydd yn bodloni anghenion y claf yn eich barn chi.*

*xvi

See paragraphs 48–49 if you disagree with a patient’s choice of option.

 

75

Ar ôl dilyn yr arweiniad ym mharagraffau 72–74, os byddwch o’r farn o hyd bod claf dan bwysau mor eithriadol i gytuno i neu wrthod ymyriad penodol fel na allant weithredu o’u gwirfodd, dylech geisio cyngor trwy weithdrefnau lleol, ymgynghori â’ch corff amddiffyn meddygol neu’ch cymdeithas broffesiynol neu geisio cyngor cyfreithiol annibynnol. Efallai y bydd y Llys yn gallu gwneud datganiadau a gorchmynion i ddiogelu oedolion pan na fyddant yn gallu gwneud penderfyniad o’u gwirfodd.