Defnyddio cyfryngau cymdeithasol fel gweithiwr meddygol proffesiynol
Gall y canllawiau hyn eich helpu i ddefnyddio eich barn broffesiynol mewn meysydd allweddol fel:
- ystyried yr effaith y gallai cynnwys rydych chi’n ei rannu ei chael ar ymddygiad ac agweddau cleifion tuag at iechyd, gwasanaethau gofal iechyd, a gweithwyr meddygol proffesiynol eraill
- bod yn onest ac yn ddibynadwy wrth gyfathrebu ar-lein, a bod yn agored am unrhyw fuddiannau sydd gennych a allai ddylanwadu ar yr argymhellion rydych chi’n eu gwneud
- ymddwyn yn broffesiynol, gan gadw ffiniau a pharchu cyfrinachedd, preifatrwydd ac urddas cleifion wrth ddefnyddio cyfryngau cymdeithasol.
Daeth y canllawiau hyn i rym ar 30 Ionawr 2024.
Cafodd y canllawiau hyn eu diweddaru ddiwethaf ar 13 Rhagfyr 2024.