Cyfrinachedd: arfer da wrth ymdrin â gwybodaeth cleifion

Mae’r canllawiau hyn yn rhoi wyth egwyddor cyfrinachedd y dylech eu defnyddio wrth ymarfer. Maent yn darparu fframwaith i’ch helpu i benderfynu pryd y gallwch rannu gwybodaeth. Ac yn eich helpu i feddwl pam eich bod yn rhannu’r wybodaeth. Maent hefyd yn cynnwys siart llif ddefnyddiol i'w defnyddio i’ch helpu i benderfynu a ddylid rhannu’r wybodaeth ai peidio.

Mae’r canllawiau’n cynnwys adran ar reoli a diogelu gwybodaeth. Yno, cewch gyngor defnyddiol ar gyfrifoldebau personol meddygon o ran diogelu gwybodaeth cleifion. Cewch hefyd gyngor ar pryd y gallwch rannu gwybodaeth ar ôl i glaf farw.

Daeth y canllawiau hyn i rym ar 25 Ebrill 2017. Cawsant eu diweddaru ar 25 Mai 2018 i adlewyrchu gofynion y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data a Deddf Diogelu Data 2018.

Mae gennym hefyd chwe set o ganllawiau byrrach sy'n esbonio sut i gymhwyso egwyddorion Cyfrinachedd i sefyllfaoedd penodol y mae meddygon yn aml yn dod ar eu traws neu'n ei chael yn anodd delio â nhw. Sef: