0–18 oed: arweiniad i bob meddyg

Atodiad 2

Rhieni a chyfrifoldeb rhieni

Fel arfer, mae cyfeiriadau a wneir at ‘rieni’ yn yr arweiniad hwn yn golygu’r rhai sydd â chyfrifoldeb rhiant dros y plentyn neu’r person ifanc dan sylw.

Mae cyfrifoldeb rhiant yn golygu’r hawliau a’r cyfrifoldebau sydd gan rieni yn ôl y gyfraith dros eu plentyn, gan gynnwys yr hawl i roi eu caniatâd iddynt gael triniaeth feddygol, nes byddant yn 18 oed yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon, ac 16 oed yn yr Alban.

Mae gan famau a thadau priod gyfrifoldeb rhiant. Mae gan dadau nad ydynt yn briod gyfrifoldeb rhiant hefyd os ganwyd eu plant er 15 Ebrill 2002 yng Ngogledd Iwerddon, er 1 Rhagfyr 2003 yng Nghymru a Lloegr ac er 4 Mai 2006 yn yr Alban, os cânt eu henwi ar dystysgrif geni y plentyn.

Os na fyddant yn cael eu henwi ar dystysgrif geni y plentyn, ni fydd gan dadau nad ydynt yn briod, ac y ganwyd eu plant cyn y dyddiadau hyn, gyfrifoldeb rhiant yn awtomatig. Gallant sicrhau cyfrifoldeb rhiant trwy gyfrwng Cytundeb Cyfrifoldeb Rhiant gyda mam y plentyn neu thrwy gael Gorchymyn Cyfrifoldeb Rhiant gan y llysoedd. Gall llys-rieni sy’n briod a phartneriaid sifil cofrestredig sicrhau cyfrifoldeb rhiant yn yr un ffyrdd.

Ni fydd rhieni yn colli cyfrifoldeb rhiant os byddant yn ysgaru. Os bydd plentyn yn cael ei roi yng ngofal yr awdurdod lleol dan orchymyn gofal, bydd rhieni yn rhannu cyfrifoldeb rhiant gyda’r awdurdod lleol. Bydd rhieni yn colli cyfrifoldeb rhiant os bydd plentyn yn cael ei fabwysiadu. Gellir cyfyngu ar gyfrifoldeb rhiant trwy gyfrwng gorchymyn llys.

Mae gan rieni maeth gyfrifoldeb rhiant, yn ogystal â’r rhai a benodir yn warcheidwad testamentaidd plentyn, yn warcheidwad arbennig neu’r rhai y rhoddir gorchymyn preswylio iddynt. Mae gan awdurdodau lleol gyfrifoldeb rhiant pan fo’r plentyn yn destun gorchymyn gofal.

Efallai y bydd angen i chi gael cyngor cyfreithiol pan geir unrhyw amheuaeth ynghylch y sawl sydd â chyfrifoldeb rhiant.

Yn yr Alban, yr unig gyfrifoldeb rhiant sy’n parhau nes bydd y person ifanc yn 18 oed yw rhoi arweiniad i’r plentyn (gweler a.1(1)(b)(ii) ac a.1(2)(b) Children (Scotland) Act 1995). Mae’r Ddeddf yn cyfeirio at hawliau a chyfrifoldebau rhieni (PRR); mae unrhyw gyfeiriad at gyfrifoldebau rhieni yn yr arweiniad hwn yn golygu PRR yn yr Alban.

Gall pobl nad oes ganddynt gyfrifoldeb rhiant, ond sy’n gofalu am blentyn, wneud yr hyn sy’n rhesymol dan holl amgylchiadau’r achos er mwyn diogelu neu hyrwyddo lles y plentyn. Gallai hyn gynnwys llys-rieni, teidiau/tad-cuod a neiniau/mam-guod a gwarchodwyr plant. Gallwch ddibynnu ar eu caniatâd nhw os ydynt wedi cael eu hawdurdodi gan y rhieni. Ond dylech sicrhau bod eu penderfyniadau yn cyd-fynd â phenderfyniadau’r rhieni, yn enwedig ar gyfer penderfyniadau pwysig neu ddadleuol.