Triniaeth a gofal tuag at ddiwedd oes: arfer da wrth wneud penderfyniadau

Mae’r canllawiau hyn yn rhoi fframwaith i chi i’ch cefnogi i ddiwallu anghenion eich claf wrth iddo nesáu at ddiwedd ei oes.

Maent yn cynnwys egwyddorion ar y canlynol:

  • gwneud penderfyniadau gyda chleifion sy’n meddu ar alluedd
  • beth i'w wneud os nad yw eich claf yn meddu ar alluedd
  • asesu manteision cyffredinol triniaeth
  • cynllunio gofal ymlaen llaw
  • diwallu anghenion maeth a hydradiad cleifion
  • adfywio cardio-pwlmonaidd
  • rôl perthnasau, partneriaid ac eraill sy'n agos at y claf   
  • rhoi organau a gofal ar ôl marwolaeth

Mae adran hefyd ar fabanod newydd-anedig, plant a phobl ifanc. Mae’n nodi egwyddorion lles pennaf y claf a pharhau’n sensitif i bryderon rhiant.

Daeth y canllawiau hyn i rym ar 1 Gorffennaf 2010. Cawsant eu diweddaru ar 15 Mawrth 2022.