Atal cenhedlu, erthylu a heintiau a drosglwyddir yn rhywiol (STIs)
Gallwch ddarparu cyngor a thriniaeth sy’n ymwneud ag atal cenhedlu, erthylu36 ac STIs heb hysbysu neu sicrhau caniatâd rhieni, i bobl ifanc dan 16 oed, ar yr amod:
- eu bod yn deall pob agwedd ar y cyngor a’i oblygiadau
- na allwch berswadio’r person ifanc i ddweud wrth eu rhieni neu ganiata´u i chi ddweud wrthynt
- o ran atal cenhedlu ac STIs, mae’r person ifanc yn debygol iawn o gael rhyw os byddant yn cael triniaeth o’r fath neu os na fyddant yn cael triniaeth o’r fath
- mae eu hiechyd corfforol neu feddyliol yn debygol o ddioddef oni bai eu bod yn cael cyngor neu driniaeth o’r fath, ac
- mae er budd pennaf y person ifanc i gael y cyngor a’r driniaeth heb hysbysu neu sicrhau caniatâd rhieni.37
Nid yw Deddf Erthyliadau 1967 yn ymestyn i Ogledd Iwerddon ac mae’r sail ar gyfer cyflawni erthyliad yn fwy cyfyngol nag y mae yng ngweddill y DU.
Gillick v West Norfolk and Wisbech AHA [1986] AC 112. Gweler hefyd R (on the application of Sue Axon) v The Secretary of State for Health & Anor [2006] EWHC 37 (Admin), [2006] 1FCR 175 and Best Practice Guidance for Doctors and other Health Professionals on the provision of Advice and Treatment to Young People under 16 on Contraception, Sexual and Reproductive Health (Adran Iechyd, 2004).
Dylech gadw manylion ymgynghoriadau yn gyfrinachol hyd yn oed os byddwch yn penderfynu peidio rhoi cyngor neu driniaeth (er enghraifft, os na fydd eich claf yn deall eich cyngor neu oblygiadau triniaeth), ac eithrio yn yr amgylchiadau arbennig a amlinellir ym mharagraffau paragraphs 46 to 52 a paragraphs 57 to 62.
Os na fydd plentyn neu berson ifanc yn cytuno datgelu eu gwybodaeth, ceir amgylchiadau o hyd lle y dylech ddatgelu gwybodaeth:
- pan fydd budd o’r pwys mwyaf i’r cyhoedd o ddatgelu’r wybodaeth
- pan fyddwch yn barnu bod y datgeliad er budd pennaf plentyn neu berson ifanc nad ydynt yn meddu ar yr aeddfedrwydd neu’r ddealltwriaeth i wneud penderfyniad ynghylch datgelu
- pan fo’r gyfraith yn mynnu y dylid datgelu.
Gallwch ddatgelu gwybodaeth sy’n nodi manylion y plentyn neu’r person ifanc heb sicrhau eu caniatâd, os bydd hyn er budd y cyhoedd. Bydd datgeliad er budd y cyhoedd os bydd y manteision sy’n debygol o gael eu sicrhau o ddatgelu gwybodaeth yn gorbwyso lles y plentyn neu’r person ifanc o gadw’r wybodaeth yn gyfrinachol, a budd cymdeithas wrth gynnal ymddiriedaeth rhwng meddygon a chleifion. Rhaid i chi ffurfio’r farn hon fesul achos unigol, trwy bwyso a mesur y budd amrywiol dan sylw.
Wrth ystyried a fyddai modd cyfiawnhau datgelu, dylech:
- ddweud wrth y plentyn neu’r person ifanc am yr hyn yr ydych yn bwriadu ei ddatgelu a pham, oni bai y byddai hynny yn tanseilio’r diben neu’n golygu bod y plentyn neu’r person ifanc mewn mwy o berygl o ddioddef niwed
- gofyn am ganiatâd i’r datgeliad, os ydych yn barnu bod y person ifanc yn gymwys i wneud y penderfyniad, oni bai nad yw’n ymarferol gwneud hynny.
Os bydd plentyn neu berson ifanc yn gwrthod rhoi eu caniatâd neu os nad yw’n ymarferol gofyn am eu caniatâd, dylech ystyried y manteision a’r niwed posibl a allai godi o ddatgelu. Dylech ystyried unrhyw safbwyntiau a fynegir gan y plentyn neu’r person ifanc ynghylch pam na ddylech ddatgelu’r wybodaeth. Ond dylech ddatgelu gwybodaeth os bydd angen gwneud hyn er mwyn diogelu’r plentyn neu’r person ifanc, neu rywun arall, rhag risg marwolaeth neu niwed difrifol. Gallai achosion o’r fath godi, er enghraifft:
- os bydd plentyn neu berson ifanc mewn perygl o gael eu hesgeuluso neu eu cam-drin yn rhywiol, yn gorfforol neu’n emosiynol (gweler paragraphs 56 to 63)
- os byddai’r wybodaeth yn helpu i atal, darganfod neu erlyn rhywun am gyflawni trosedd ddifrifol, trosedd yn erbyn y person fel arfer28
- os bydd plentyn neu berson ifanc yn gysylltiedig ag ymddygiad a allai eu rhoi nhw neu eraill mewn perygl o ddioddef niwed difrifol, megis dibyniaeth ddifrifol, hunan-niwed neu ddwyn ceir.
Os ydych o’r farn bod modd cyfiawnhau datgelu, dylech ddatgelu’r wybodaeth yn ddi-oed i berson neu awdurdod priodol, gan gofnodi’ch trafodaethau a’ch rhesymau. Os byddwch o’r farn nad oes modd cyfiawnhau datgelu, dylech gofnodi’ch rhesymau dros beidio datgelu.
Fel arfer, bydd rhieni neu oedolion eraill sy’n ymwneud â’u gofal yn mynychu gyda phlant, a bydd modd i chi weld yn ôl eu hymddygiad fel arfer os bydd plentyn yn cytuno i’r weithred o rannu gwybodaeth neu beidio. O bryd i’w gilydd, bydd plant nad ydynt yn meddu ar y galluedd i roi eu caniatâd, yn rhannu gwybodaeth gyda chi yn unol â’r ddealltwriaeth na ddylid hysbysu eu rhieni. Fel arfer, dylech geisio perswadio’r plentyn i gynnwys rhiant mewn amgylchiadau o’r fath. Os byddant yn gwrthod ac os byddwch o’r farn ei bod er budd pennaf y plentyn i chi rannu’r wybodaeth (er enghraifft, er mwyn galluogi rhiant i wneud penderfyniad pwysig neu er mwyn darparu gofal cywir i’r plentyn), gallwch ddatgelu’r wybodaeth i rieni neu awdurdodau priodol. Dylech gofnodi’ch trafodaethau a’ch rhesymau dros rannu’r wybodaeth.
Rhaid i chi ddatgelu gwybodaeth sy’n ofynnol yn unol â’r gyfraith. Yn ogystal, rhaid i chi ddatgelu gwybodaeth pan fyddwch yn cael cyfarwyddyd i wneud hynny gan lys.29
Mae gwasanaeth iechyd rhywiol cyfrinachol yn hanfodol er lles plant a phobl ifanc. Pryder ynghylch cyfrinachedd yw’r ystyriaeth fwyaf sy’n atal pobl ifanc rhag gofyn am gyngor ynghylch iechyd rhywiol.33 Yn ei dro, mae hyn yn peryglu iechyd pobl ifanc ac mae’n peryglu iechyd y gymuned, yn enwedig pobl ifanc eraill.
Gallwch ddatgelu gwybodaeth berthnasol pan fo hynny er budd y cyhoedd (gweler paragraphs 47 to 50). Os bydd plentyn neu berson ifanc yn ymwneud â gweithgarwch rhywiol sy’n cyfateb a cham-drin neu sy’n peri niwed difrifol, rhaid i chi eu diogelu trwy rannu gwybodaeth berthnasol gyda phobl neu asiantaethau priodol megis yr heddlu neu’r gwasanaethau cymdeithasol, yn gyflym ac mewn ffordd broffesiynol.
Dylech ystyried pob achos yn ôl ei haeddiant, gan ystyried ymddygiad pobl ifanc, eu hamgylchiadau byw, eu haeddfedrwydd, unrhyw anableddau dysgu difrifol ac unrhyw ffactorau eraill a allai olygu eu bod yn arbennig o agored i niwed.
Fel arfer, dylech rannu gwybodaeth ynghylch gweithgarwch rhywiol sy’n ymwneud â phlant dan 13 oed, y mae’r gyfraith yn eu hystyried fel unigolion na allant roi eu caniatâd.34 Dylech drafod penderfyniad i beidio datgelu gyda meddyg penodol neu ddynodedig ar gyfer amddiffyn plant, a chofnodi’ch penderfyniad a’ch rhesymau dros wneud y penderfyniad hwn.
Fel arfer, dylech rannu gwybodaeth ynghylch gweithgarwch rhywiol sy’n cyfateb â cham-drin neu sy’n peri niwed difrifol, ac sy’n cynnwys unrhyw blentyn neu berson ifanc, gan gynnwys gweithgarwch sy’n ymwneud â’r canlynol:
- person ifanc nad ydynt yn ddigon aeddfed i ddeall neu i roi eu caniatâd
- gwahaniaethau mawr rhwng oedran, aeddfedrwydd neu bwˆ er rhwng partneriaid rhywiol
- partner rhywiol person ifanc yn meddu ar swydd gyfrifol
- grym neu fygythiad grym, pwysau emosiynol neu seicolegol, llwgrwobrwyo neu dâl, naill ai i gymryd rhan mewn gweithgarwch rhywiol neu i’w chadw fel cyfrinach
- cyffuriau neu alcohol a ddefnyddir i ddylanwadu ar berson ifanc i gymryd rhan mewn gweithgarwch rhywiol pan na fyddent yn gwneud hynny fel arall
- person y mae’r heddlu neu’r asiantaethau amddiffyn plant yn ymwybodol ohonynt oherwydd eu bod wedi cael perthnasoedd gyda phlant neu bobl ifanc a oedd yn cynnwys cam-drin.35
Efallai na fyddwch yn gallu barnu bod perthynas yn un sy’n cynnwys cam- drin heb wybod y manylion ynghylch partner rhywiol person ifanc, na fydd y person ifanc yn dymuno’u datgelu efallai. Os ydych yn pryderu bod perthynas yn cynnwys cam-drin, dylech gydbwyso mewn ffordd ofalus y manteision o wybod manylion personol partner rhywiol, yn erbyn y colli ymddiriedaeth a allai ddigwydd trwy ofyn am wybodaeth o’r fath neu ei rhannu.
Gwrthwynebiadau cydwybodol
Os bydd cyflawni gweithdrefn benodol neu roi cyngor yn ei chylch yn gwrthdaro gyda’ch credoau crefyddol neu foesol, ac y gallai’r gwrthdaro hwn effeithio ar y driniaeth neu’r cyngor y byddwch yn ei roi, rhaid i chi esbonio hyn i’r claf, gan ddweud wrthynt bod ganddynt yr hawl i weld meddyg arall.38 Dylech sicrhau bod gwybodaeth ynghylch gwasanaethau amgen ar gael i bob claf. Efallai y bydd plant a phobl ifanc yn arbennig yn cael anhawster wrth wneud trefniadau amgen eu hunain, felly rhaid i chi sicrhau bod trefniadau yn cael eu gwneud i gydweithiwr arall sy’n meddu ar y gymhwystra addas, ymgymryd â’ch rôl cyn gynted ag y bo modd.
Gweler arweiniad CMC ynghylch Credoau personol ac arfer meddygol.