0–18 oed: arweiniad i bob meddyg

Cyfathrebu

14

Mae cyfathrebu effeithiol rhwng meddygon a phlant a phobl ifanc yn hanfodol er mwyn darparu gofal da. Dylech ddarganfod yr hyn y mae plant, pobl ifanc a’u rhieni yn dymuno’i wybod a’r hyn y mae angen iddynt ei wybod, pa faterion sy’n bwysig iddynt, a pha safbwyntiau neu ofnau sydd ganddynt ynghylch eu hiechyd neu eu triniaeth. Yn arbennig, dylech:

  1. gynnwys plant a phobl ifanc mewn trafodaethau ynghylch eu gofal
  2. bod yn onest ac yn agored gyda nhw a’u rhieni, gan barchu eu cyfrinachedd ar yr un pryd
  3. gwrando ar eu safbwyntiau ynghylch eu hiechyd, a’u parchu, ac ymateb i’w pryderon a’u dewisiadau
  4. esbonio pethau gan ddefnyddio iaith neu ffurfiau cyfathrebu eraill y gallant eu deall
  5. ystyried sut yr ydych chi a sut y maen nhw yn defnyddio cyfathrebu nad yw’n gyfathrebu llafar, a’r amgylchedd lle y byddwch yn cyfarfod gyda nhw
  6. rhoi cyfleoedd iddynt ofyn cwestiynau ac ateb y rhain yn onest a hyd eithaf eich gallu
  7. gwneud popeth y gallwch i sicrhau bod modd cael trafodaeth agored a gonest, gan ystyried bod cyfranogiad rhieni neu unigolion eraill yn gallu helpu hyn neu rwystro hyn
  8. rhoi’r un amser a pharch iddynt ag y byddech yn ei roi i gleifion sy’n oedolion.
15

Dylech egluro eich bod ar gael i weld plant a phobl ifanc ar eu pen eu hunain os ydynt yn dymuno hynny. Dylech osgoi rhoi’r argraff (yn uniongyrchol, trwy staff y dderbynfa neu mewn unrhyw ffordd arall) na allant fanteisio ar wasanaethau pan na fyddant yn nghwmni rhiant. Dylech ystyried effaith y gall presenoldeb gwarchodwr5 ei gael, yn ofalus. Gall eu presenoldeb atal pobl ifanc rhag bod yn agored a gofyn am help.

5

Gweler arweiniad CMC ynghylch cynnal terfynau.

16

Dylech ystyried safbwyntiau plant a phobl ifanc o ddifrif ac ni ddylech ddiystyru neu ymddangos fel pe baech yn diystyru eu pryderon neu eu cyfraniadau. Gall plant a phobl ifanc anabl yn arbennig, deimlo’u bod dan anfantais yn hyn o beth.

17

Fel arfer, bydd plant a phobl ifanc yn dymuno cael gwybod am eu salwch, neu bydd angen iddynt gael gwybod am eu salwch a’r hyn sy’n debygol o ddigwydd iddynt yn y dyfodol. Dylech ddarparu gwybodaeth sy’n hawdd i’w deall ac sy’n briodol i’w hoedran a’u haeddfedrwydd ynghylch:

  1. eu cyflwr
  2. diben ymchwiliadau a thriniaethau yr ydych yn eu cynnig a’r hyn y byddant yn ei olygu, gan gynnwys poen, anesthetig ac aros yn yr ysbyty
  3. y siawns y bydd gwahanol ddewisiadau o ran triniaethau yn llwyddo, gan gynnwys peidio cael triniaeth, a risgiau gweithgarwch o’r fath
  4. pwy fydd yn bennaf gyfrifol am eu gofal ac yn ymwneud ag ef
  5. eu hawl i newid eu meddwl neu i ofyn am ail farn.
18

Ni ddylech orlethu plant a phobl ifanc neu eu rhieni, a dylech roi gwybodaeth iddynt ar adeg ac ar gyflymder priodol, a sicrhau eu bod yn deall pwyntiau allweddol.

19

Dylech siarad yn uniongyrchol gyda phlant a phobl ifanc sy’n gallu cymryd rhan mewn trafodaethau am eu gofal, a gwrando arnynt. Mae’n gas gan bobl ifanc sy’n gallu deall yr hyn sy’n cael ei ddweud ac sy’n gallu siarad drostynt eu hunain, weld pobl yn siarad amdanynt pan fyddant yn bresennol. Ond efallai na fydd plant iau yn deall yr hyn y mae eu salwch neu’r driniaeth arfaethedig ar eu cyfer yn debygol o’i olygu, hyd yn oed pan gaiff ei esbonio iddynt mewn ffordd syml.

20

Dim ond dan yr amgylchiadau canlynol y dylech beidio cyfleu’r math o wybodaeth a ddisgrifir ym mharagraff paragraph 17 i blant neu bobl ifanc:

  1. os byddai’n achosi niwed difrifol iddynt (ac nid peri gofid iddynt yn unig, neu’n ei gwneud yn fwy tebygol y byddant yn gwrthod y driniaeth)
  2. byddant yn gofyn i chi beidio, oherwydd byddai’n well ganddynt i rywun arall wneud penderfyniadau ar eu rhan.
17

Fel arfer, bydd plant a phobl ifanc yn dymuno cael gwybod am eu salwch, neu bydd angen iddynt gael gwybod am eu salwch a’r hyn sy’n debygol o ddigwydd iddynt yn y dyfodol. Dylech ddarparu gwybodaeth sy’n hawdd i’w deall ac sy’n briodol i’w hoedran a’u haeddfedrwydd ynghylch:

  1. eu cyflwr
  2. diben ymchwiliadau a thriniaethau yr ydych yn eu cynnig a’r hyn y byddant yn ei olygu, gan gynnwys poen, anesthetig ac aros yn yr ysbyty
  3. y siawns y bydd gwahanol ddewisiadau o ran triniaethau yn llwyddo, gan gynnwys peidio cael triniaeth, a risgiau gweithgarwch o’r fath
  4. pwy fydd yn bennaf gyfrifol am eu gofal ac yn ymwneud ag ef
  5. eu hawl i newid eu meddwl neu i ofyn am ail farn.
21

Mae gennych yr un ddyletswydd o ran cyfrinachedd gyda phlant a phobl ifanc ag y mae gennych gydag oedolion. Ond yn aml, bydd rhieni yn dymuno cael, a bydd angen iddynt gael, gwybodaeth am ofal eu plentyn er mwyn iddynt allu gwneud penderfyniadau neu ddarparu gofal a chymorth. Fel arfer, bydd plant a phobl ifanc yn fodlon bod gwybodaeth yn cael ei rhannu gyda’u rhieni. Yn aml, bydd y broses hon o rannu gwybodaeth er budd pennaf plant a phobl ifanc, yn enwedig os byddai eu hiechyd yn elwa o gael gofal arbennig neu driniaeth barhaus, megis diet arbennig neu feddyginiaeth reolaidd. Fel arfer, y rhieni yw’r rhai gorau i benderfynu ynghylch yr hyn sydd er budd pennaf eu plant a dylent wneud penderfyniadau pwysig nes bydd eu plant yn gallu gwneud eu penderfyniadau eu hunain. Dylech rannu gwybodaeth berthnasol gyda rhieni yn unol â’r gyfraith a’r arweiniad a roddir ym mharagraffau paragraphs 27, 28 a 42 to 55.

27

Os na fydd plentyn yn meddu ar y galluedd i roi caniatâd, dylech ofyn am ganiatâd eu rhiant. Fel arfer, bydd yn ddigonol cael caniatâd gan un rhiant. Os na fydd rhieni yn gallu cytuno ac os na fydd modd datrys unrhyw anghydfod mewn ffordd anffurfiol, dylech geisio cyngor cyfreithiol ynghylch a ddylech wneud cais i’r llys.10 

28

Mae’r fframwaith cyfreithiol ynghylch trin pobl ifanc sy’n 16 ac sy’n 17 oed, nad ydynt yn meddu ar y galluedd i roi caniatâd, yn gwahaniaethu ar draws y DU:

  1. Yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon, gall rhieni roi caniatâd i ymchwiliadau a thriniaeth y maent er budd pennaf y person ifanc
  2. Yng Nghymru a Lloegr, gellir darparu triniaeth sydd er budd pennaf y person ifanc heb sicrhau caniatâd rhieni hefyd, er y gallai safbwyntiau rhieni fod yn bwysig wrth asesu budd pennaf y person ifanc (gweler paragraphs 12 and 13)11 
  3. Yng Ngogledd Iwerddon, gellir darparu triniaeth sydd er budd pennaf y person ifanc os na fydd modd cysylltu â rhiant, er y dylech geisio cyngor cyfreithiol ynghylch gwneud cais am gymeradwyaeth llys ar gyfer ymyriadau sylweddol (ac eithrio ymyriadau brys)
  4. Yn yr Alban, caiff pobl ifanc sy’n 16 ac sy’n 17 oed nad ydynt yn meddu ar y galluedd i roi eu caniatâd, eu trin fel oedolion nad ydynt yn meddu ar alluedd, a gellir rhoi triniaeth i ddiogelu neu i hyrwyddo eu hiechyd.12 
42

Mae parchu cyfrinachedd cleifion yn rhan hanfodol o ofal da; mae hyn yn berthnasol pan fo’r claf yn blentyn neu’n berson ifanc, yn ogystal â phan fo’r claf yn oedolyn. Heb yr ymddiriedaeth sy’n cael ei sicrhau trwy gyfrwng cyfrinachedd, efallai na fydd plant a phobl ifanc yn ceisio cyngor a gofal meddygol, neu efallai na fyddant yn eich hysbysu o’r holl ffeithiau sy’n angenrheidiol er mwyn darparu gofal da iddynt.

43

Mae’r un dyletswyddau cyfrinachedd25 yn berthnasol wrth ddefnyddio, rhannu neu ddatgelu gwybodaeth ynghylch plant a phobl ifanc ag y maent ynghylch oedolion. Dylech:

  1. ddatgelu gwybodaeth sy’n nodi manylion y claf os bydd hyn yn angenrheidiol er mwyn cyflawni diben y datgelu yn unig – ym mhob achos arall, dylech sicrhau bod y wybodaeth yn ddienw26 cyn ei datgelu
  2. hysbysu’r claf27 ynghylch defnydd posibl a wneir o’u gwybodaeth, gan gynnwys sut y gellid ei defnyddio i ddarparu eu gofal ac ar gyfer archwiliad clinigol
  3. gofyn am ganiatâd y claf27 cyn datgelu gwybodaeth a allai ddatgelu eu manylion, os bydd angen y wybodaeth at unrhyw ddiben arall, ac eithrio yn yr amgylchiadau arbennig a ddisgrifir yn yr arweiniad hwn
  4. gwneud cyn lleied o ddatgeliadau ag y bydd angen eu gwneud. 
44

Gall rhannu gwybodaeth gyda’r bobl gywir helpu i ddiogelu plant a phobl ifanc rhag niwed, gan sicrhau eu bod yn cael yr help y maent ei angen. Yn ogystal, gall helpu wrth leihau nifer yr adegau y bydd gwahanol weithwyr proffesiynol yn gofyn yr un cwestiynau iddynt. Trwy ofyn am eu caniatâd i rannu gwybodaeth berthnasol, rydych yn dangos parch tuag atynt ac yn eu cynnwys mewn penderfyniadau sy’n ymwneud â’u gofal.

45

Os bydd plant a phobl ifanc yn gallu cymryd rhan yn y broses o wneud penderfyniadau, dylech esbonio pam bod angen i chi rannu gwybodaeth, a gofyn am eu caniatâd. Fel arfer, byddant yn fodlon i chi siarad gyda’u rhieni ac eraill sy’n ymwneud â’u gofal neu eu triniaeth.