General Medical Council
Working with doctors Working for patients
This site uses cookies. Find out more about our cookie policy or Accept cookies
Dewiswch yr arweiniad y mae ei angen arnoch trwy ddefnyddio'r tabl isod. Bydd y dolenni yn agor ffeiliau PDF Cymraeg o'n harweiniad. Os ydych yn chwilio am wybodaeth am fater penodol, ond nid ydych yn gwybod teitl yr arweiniad y mae angen i chi ei gael, mae modd i chi weld ein rhestr A–Z (Saesneg yn unig) hefyd, neu chwilio'r arweiniad. Yn ogystal, mae modd i chi lawrlwytho cyhoeddiad Yr hyn i’w ddisgwyl gan eich meddyg (2013), a ddatblygwyd gennym er mwyn helpu cleifion i ddeall y safonau a ddisgwylir gan bob meddyg. Sylwer nad arweiniad ar gyfer meddygon yw hwn.
Arfer meddygol da yw ein harweiniad craidd ar gyfer pob meddyg cofrestredig. Yn yr un modd â'n holl ddogfennau arweiniad, bydd methiant difrifol neu barhaus i'w ddilyn yn peryglu cofrestriad meddyg.
Caiff Arfer meddygol da ei gynorthwyo gan amrediad o ddogfennau arweiniad esboniadol, y maent yn ymhelaethu am un o'i egwyddorion ar lefel uchel neu fwy.
Arweiniad y gallai fod yn fwy perthnasol i feddygon y maent yn gweithio mewn meysydd arbenigol penodol, neu am sefyllfaoedd penodol y gallai rhai meddygon eu hwynebu yn ystod eu gyrfa.
Rydym yn disgwyl i feddygon fod yn gyfarwydd gydag amrediad yr arweiniad oherwydd y bydd methu dilyn unrhyw ran ohono yn peryglu eu cofrestriad.
Sylwer: ceir saith dogfen arweiniad esboniadol ychwanegol ynghylch Cyfrinachedd, ond mae'r rhain ar gael yn Saesneg yn unig. Rydym yn eu diweddaru fel rhan o'n hadolygiad Cyfrinachedd, felly bydd fersiynau newydd, gan gynnwys fersiynau Cymraeg ohonynt, ar gael yn nes ymlaen yn ystod 2016.