Publications in Welsh / Cyhoeddiadau sydd ar gael yn y Gymraeg
English
Arfer Meddygol Da
Hwn yw prif arweiniad y Cyngor Meddygol Cyffredinol i feddygon. Y mae'n nodi'r egwyddorion a'r gwerthoedd sydd yn sail i waith meddyg da, ac sy'n ddisgwyliedig oddi wrth eich meddyg chi.
Triniaeth a gofal diwedd oes
Datblyga hyn ddyletswyddau ac egwyddorion a nodir yn Arfer Meddygol Da ac yn ein canllawiau eraill. Mae’n gosod safonau gwaith sy’n ddisgwyliedig o ddoctoriaid sy’n trin cleifion sy’n nesáu at ddiwedd eu hoes.
Sut i gwyno am feddyg : Canllaw i gleifion
Mae'r ddogfen yma ar gyfer cleifion a'r cyhoedd. Mae'n egluro'r hyn sydd angen i chi wneud os ydych chi'n anhapus am y ffordd mae meddyg wedi'ch trin chi neu gofalu amdanoch chi.
Taflen ffeithiau
0 - 18 oed : arweiniad i bob meddyg
Mae'r arweiniad hwn ar gyfer pob meddyg, ac y mae'n datblygu ar y dyletswyddau a'r egwyddorion a welir yn Arfer Meddygol Da ac yn ein canllawiau eraill wrth ganolbwyntio ar blant a phobl ifanc rhwng genedigaeth a'u penblwydd yn 18. Medr y ddogfen yma hefyd fod o ddefnydd i blant, pobl ifanc, y rhai sydd â diddordeb yn eu gofal, ac unrhyw un arall hefyd sy'n dymuno gwybod pa arweiniad a roddir i feddygon.
Diogelu cleifion - eich hawliau fel pobl lesbaidd, hoyw a deurywiol
Rhaid bod cleifion yn gallu rhoi eu bywydau a’u hiechyd yng ngofal meddygon. Mae hyn yn cynnwys cleifion lesbaidd, hoyw a deurywiol (LHD) a’u teuluoedd. Mae ganddynt yr un hawliau ag unrhyw un arall i fanteisio ar ofal diogel, effeithiol a phriodol.
Caniatâd: cleifion a meddygon yn gwneud penderfyniadau gyda’i gilydd
Mae’r arweiniad hwn, Caniatâd: cleifion a meddygon yn gwneud penderfyniadau gyda’i gilydd, yn disodli’r llyfryn Ceisio caniatâd cleifion: yr ystyriaethau moesegol (1998).
Mae’n ymhelaethu ar yr arweiniad yn Arfer Meddygol Da, sy’n mynnu bod meddygon yn fodlon eu bod wedi sicrhau caniatâd claf neu awdurdod dilys arall cyn iddynt gynnal unrhyw archwiliad, darparu triniaeth, neu gynnwys cleifion mewn gwaith ymchwil ac addysgu.
Cyfrinachedd
Mae’r arweniad yma yn nodi’r egwyddorion o gyfrinachedd a’r parch tuag at preifatrwydd cleifion, a ddylai bob meddyg ei ddilyn a’i deall.